Ymchwil, Busnes ac Arloesi / Research, Business & Innovation’s Post

💡 Ail-lansiwyd y Cwrs Byr ar Ddyddio Ymoleuedd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dan arweiniad yr Athro Geoff Duller a'r Athro Helen Roberts, cafodd y cyfranogwyr fewnwelediad i'r ystod o ddulliau sydd ar gael gyda'r teulu hwn o dechnegau sy'n datblygu'n gyflym, ac sy'n cael eu defnyddio mewn astudiaethau daearegol ac archaeolegol ledled y byd. Dros yr wythnos, gwnaethon nhw ddefnyddio'r dulliau hyn mewn sesiynau ymarferol yn Labordy Ymchwil Ymoleuedd Aberystwyth, cyfleuster sydd ar flaen y gad o ran ymchwil dyddio ymoleuedd ers 30 mlynedd ac ymhlith y rhai sydd â'r offer gorau yn y byd. Roedd adborth y cyfranogwyr ar y cwrs yn cynnwys: “Cwrs gwych.” “Diolch, Helen a Geoff, am ddarparu cwrs manwl, rhagorol.” “Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi'r holl amser, ymdrech, brwdfrydedd, deinameg grŵp a chyfnod dysgu ymroddedig” Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ystod o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus sydd wedi'u cynllunio i gefnogi twf gyrfa unigol a llwyddiant busnes. Edrychwch ar ein cyrsiau a chysylltwch â ni ar drbi@aber.ac.uk i drafod sut y gallwn eich cefnogi. 🖱️ tinyurl.com/y8jpt64b #DyddioYmoleuedd #DatblygiadProffesiynol #YmchwilAberystwyth

  • Dyddio Ymoleuedd
  • Dyddio Ymoleuedd

To view or add a comment, sign in

Explore content categories